Papur 1

 

Y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol

 

Dydd Mercher 15 Mai 2013

 

Diwylliant a Chwaraeon

 

Portffolio

 

1.         Yn fy mhortffolio, mae gennyf gyfrifoldeb am faterion yn ymwneud â’r celfyddydau, chwaraeon, hamdden awyr agored, tirweddau, archifau, llyfrgelloedd, amgueddfeydd a’r amgylchedd hanesyddol. Mae gennyf gyfrifoldeb hefyd fel y Gweinidog arweiniol am y Bil Teithio Llesol (Cymru).

 

2.         Rwyf yn credu’n gryf bod y meysydd polisi hyn yn hanfodol i Gymru a gallant chwarae rhan bwysig i gyflawni ymrwymiadau’r Llywodraeth hon ar faterion allweddol megis iechyd, tlodi a’r economi.

 

3.         Rwyf wedi bod yn awyddus i bwysleisio hefyd, ers ymgymryd â’r swydd, fy mod yn cydnabod gwerth sylfaenol chwaraeon a’r celfyddydau yng Nghymru. Er eu bod yn bendant yn feysydd allweddol i’w hystyried ochr yn ochr â’n huchelgeisiau i wneud Cymru’n genedl iachach a mwy ffyniannus, maent yn bwysig ynddynt eu hunain hefyd.

 

4.         Rwyf yn bwriadu gweithredu i gyflawni’r pethau hynny sy’n gwneud gwahaniaeth i’r bobl a wasanaethir gennym, eu teuluoedd a’n cymunedau – yn awr ac yn y dyfodol.

 

5.         Mae’r Rhaglen Lywodraethu (RhL) yn nodi llawer o’r camau penodol yr wyf yn eu cymryd. Mae hefyd yn amlinellu cerrig milltir a dangosyddion i asesu cynnydd i fynd i’r afael â’r heriau tymor hir sy’n wynebu Cymru.

 

6.         Fel y gwyddoch, mae gennyf atebolrwydd penodol i sicrhau bod cynnydd y gwaith ar y trywydd cywir mewn nifer o feysydd o fewn y rhaglen – yn fwyaf arbennig y penodau sy’n ymdrin â Mynd i’r Afael â Thlodi (9), Cymunedau Gwledig (10), yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd (11) a Diwylliant a Threftadaeth Cymru (12).

 

Blaenoriaethau a Chynnydd

 

7.         Er nad oes modd rhoi sylw i fy mhortffolio cyfan yn y papur hwn, rwyf wedi amlinellu manylion pellach isod ar rai o fy mlaenoriaethau, gan roi ystyriaeth i feysydd penodol y mae hwn a Phwyllgorau eraill wedi eu nodi fel rhai mae ganddynt ddiddordeb arbennig ynddynt.

 

Y Celfyddydau

 

8.         Yr wyf yn ymwybodol iawn o swyddogaeth y celfyddydau yn ein cymdeithas, fel ffynhonnell swyddi ond hefyd fel ffynhonnell pleser a dysgu. 

 

9.         Mae pob cymuned yn elwa drwy fynediad at y celfyddydau, gallant fod yn ddull grymus o weithio â’r gymuned i ddatblygu sgiliau cymdeithasol a chyfathrebu, hunan eiriolaeth a grymuso. Mae’r adroddiad arfaethedig gan yr Athro Dai Smith ar y Celfyddydau mewn Addysg, a gomisiynwyd ar y cyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau a’r cyn Weinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth, yn edrych ar y rôl y gall y celfyddydau ei chwarae mewn ysgolion, gan ysbrydoli pobl ifanc o gefndiroedd difreintiedig a’u hysgogi i ddysgu. 

 

10.      Credaf yn gryf y gall buddsoddi yn y celfyddydau a diwylliant a’r amgylchedd hanesyddol yn fwy cyffredinol gynorthwyo datblygiad cymdeithasol ac economaidd; datblygu cymunedol; a chyflogaeth. Maent yn elfen allweddol o’r ansawdd bywyd sydd gan ardal i’w gynnig; a gwyddom fod hyn yn ffactor allweddol wrth i bobl benderfynu a ydynt am fyw yno, gweithio yno, buddsoddi yno neu ymweld â hi.  

 

11.      Byddaf yn gweithio â Chyngor Celfyddydau Cymru i ymestyn yn ddwfn i rai o gymunedau mwyaf difreintiedig Cymru. Mae angen meithrin newid, grymuso, perchnogaeth – i alluogi pobl i ddod o hyd i’w llais eu hunain i ddwyn gweithwyr celfyddydol proffesiynol medrus a chymunedau ac unigolion at ei gilydd. Rwyf am weld gwaith y gall pobl uniaethu ag ef, a bod hwnnw’n cyrraedd y safonau artistig uchaf. Gwaith unigryw, dilys, cadarnhaol: ar eu gorau, gall y celfyddydau drawsnewid bywydau.

 

12.      Rwyf yn cefnogi cyllido hyd braich ar gyfer y celfyddydau ond, er hynny, mae fy nisgwyliadau ar gyfer y celfyddydau’n cynnwys: gwneud y celfyddydau’n hygyrch i bobl na all brynu tocynnau’n rheolaidd yn y canolfannau mawr a mynd ag arddangosfeydd a pherfformiadau i rannau llai hygyrch o Gymru.

 

13.      Yr wyf hefyd am weld mudiadau celfyddydol yn parhau i ymgysylltu â’r rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i greu mwy o gyfleoedd i bobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig i brofi ac i gyfranogi yn yr hyn sydd gan y celfyddydau i’w gynnig.

 

14.      Mae’r data diweddaraf ar ffigurau presenoldeb mewn sioeau celfyddydol yn dangos bod lefelau presenoldeb yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn gyda 76% o oedolion wedi bod mewn digwyddiad celfyddydol yn ystod 2012.

 

15.      Mae lefelau cyfranogi’n dangos cynnydd mwy calonogol fyth gyda chyfranogiad ymhlith oedolion yn cynyddu o 27% yn 2011 i 40% yn 2012, tra’r oedd lefelau cyfranogi ymhlith plant a phobl ifanc wedi cynyddu o 85% i 92% rhwng 2010 a 2012.

 

16.      Hefyd, rwyf yn awyddus i fanteisio ar bob cyfle i ddefnyddio’r celfyddydau i hyrwyddo Cymru’n rhyngwladol. Mae gennym yn awr gyfleoedd cyffrous iawn i wneud hynny e.e. WOMEX, yr ŵyl gerddoriaeth byd yng Nghaerdydd ym mis Hydref, a’r dathliadau yn 2014 i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Mae digwyddiadau eraill hefyd ymhellach yn y dyfodol, gan gynnwys Canmlwyddiant y Rhyfel Mawr, a dathliadau Patagonia yn 2015. Mae’r rhain yn gyfleoedd gwirioneddol i ni a rhaid meddwl yn greadigol sut all y Llywodraeth gefnogi’r celfyddydau yn y blynyddoedd pwysig hyn.

 

Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd

 

17.      Yr ydym yn gweithio’n galed hefyd i helpu i greu llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau o’r radd flaenaf. Yn fwyaf arbennig, rwyf wrth fy modd bod Amgueddfa Cymru - National Museum Wales yn dathlu’r ffaith bod y nifer uchaf erioed, 1.75 miliwn o bobl wedi ymweld â’i safleoedd yn ystod y 12 mis diwethaf.

 

18.      Hefyd, Sain Ffagan yw hoff atyniad ymwelwyr y DU ac mae’n gyfleuster o safon ryngwladol. Bydd ein prosiect newydd sy’n cael ei gefnogi gan y Loteri yn sicrhau y bydd yn arweinydd byd sy’n adrodd hanes holl bobl Cymru’n well. Bydd yr ailddatblygiad hwn yn gyfle ardderchog i ni i ddysgu mwy am ein diwylliant a’n treftadaeth, a bydd yn denu llawer mwy o bobl o’r tu allan i Gymru, gan roi hwb gwerthfawr iawn i’n heconomi.

 

19.      Ar y llwyfan rhyngwladol, agorodd arddangosfa Amgueddfa Cymru yn ddiweddar yn Tsieina yn Amgueddfa fyd enwog y Three Gorges yn Chongqing. Mae’r arddangosfa “Cymru, Gwlad y Ddraig Goch”, yn rhan o gynllun cyfnewid diwylliannol dwyffordd rhwng Cymru a Tsieina, a bydd yn gweithredu fel cyflwyniad i Gymru drwy gynnwys llawer o wrthrychau pwysig o gasgliadau amrywiol yr Amgueddfa Genedlaethol.

 

20.      Mae gan amgueddfeydd rôl allweddol i’w chwarae i roi sylw i dlodi ac mae ein partneriaeth â Phlant mewn Amgueddfeydd yn enghraifft nodedig o hyn. Yr wyf wedi ymrwymo i godi safonau mewn amgueddfeydd yng Nghymru ac i annog pob amgueddfa i fod yn rhan o’r cynllun Achredu Amgueddfeydd. 

 

21.      Mae cyllid grant i amgueddfeydd yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru wedi cael ei gynnal a bydd yn ariannu prosiectau strategol Cymru gyfan a phrosiectau amgueddfeydd penodol i annog gwella gwasanaethau.

 

22.      Mae ein llyfrgelloedd cyhoeddus hefyd yn gweithio ochr yn ochr ag ysgolion a phartneriaid eraill i wneud cyfraniad pwysig i hybu llythrennedd o oedran cynnar. Yn 2011-12 benthyciwyd dros 3.5 miliwn o lyfrau plant o’n llyfrgelloedd cyhoeddus. Mae gwella lefelau llythrennedd yn hanfodol i fynd i’r afael â thlodi.

 

23.      Mae gan lyfrgelloedd cyhoeddus rôl gynyddol bwysig hefyd drwy ddarparu mynediad di-dâl at y rhyngrwyd, gan alluogi’r bobl hynny heb y rhyngrwyd yn eu cartref i ddefnyddio’r nifer cynyddol o wasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu darparu ar-lein yn bennaf.  Bydd adnodd y Llyfrgell Genedlaethol a lansiwyd yn ddiweddar, Papurau Newydd Cymru Ar-lein, hefyd yn cynnig mynediad ar-lein am ddim i ddwy filiwn o dudalennau o bapurau newydd hanesyddol. Hefyd, bydd ein harchifau’n cynyddu mynediad ar-lein i ddefnyddwyr drwy ddarparu catalog lefel eitem. Byddant hefyd yn gwella gallu gwasanaethau archif lleol i reoli a diogelu archifau digidol. 

 

Yr Amgylchedd Hanesyddol

 

24.      Mae’r amgylchedd hanesyddol yn ganolog i’n diwylliant yng Nghymru. Mae’n adnodd a rennir ac mae’n rhan o’n cyd etifeddiaeth.

 

25.      Rwyf felly’n croesawu Ymchwiliad y Pwyllgor hwn i’n Polisi Amgylchedd Hanesyddol ac roeddwn yn falch o ymateb ar ran Llywodraeth Cymru ar 25 Ebrill 2013. Edrychaf ymlaen at gyflawni’r ymrwymiadau a wnaethpwyd yn yr ymateb hwnnw er budd y sector amgylchedd hanesyddol a phobl Cymru.

 

26.      Mae treftadaeth a’r amgylchedd hanesyddol yn cyfrannu oddeutu £840 miliwn at Werth Ychwanegol Crynswth (GYC) Cymru ac mae’n cynnal tua 30,000 o swyddi cyfwerth ag amser llawn.

 

27.      Yn 2012-2013, bu 1.2 miliwn o bobl yn ymweld â’n henebion sy’n cael eu staffio, a bu 1.2 miliwn arall yn ymweld â henebion nad ydynt yn cael eu staffio. Bu 94,500 o ymweliadau addysgol â safleoedd treftadaeth Cadw. Yn yr un flwyddyn, cynhyrchodd safleoedd Cadw £4.6m o incwm.

 

28.      Cymerodd 43,400 o bobl ran mewn rhaglenni cymunedol ac allgymorth a drefnwyd gan Cadw, a bu 25,500 arall mewn digwyddiadau a drefnwyd gan y Comisiwn Brenhinol ac Ymddiriedolaethau Archeolegol Cymru.

 

29.      Mae’r Prosiect Twristiaeth Treftadaeth sy’n cael ei ariannu gan £19m o Gronfa Gydgyfeirio’r UE yn helpu i harneisio treftadaeth gyfoethog Cymru i fanteisio i’r eithaf ar werth economaidd treftadaeth drwy gynyddu niferoedd, hyd a gwerth ymweliadau o fewn ac i Gymru. Bydd gwaith yn cael ei gwblhau cyn hir i adnewyddu’r dehongliad a gwella mynediad i ymwelwyr yng Nghastell Caerffili, Gwaith Haearn Blaenafon,  Castell Abertawe, Llys yr Esgob Tyddewi, Ynys Llanddwyn a Ffwrnais Ddyfi. Mae 78.5% o asedau’r amgylchedd hanesyddol mewn cyflwr sefydlog neu wedi’u gwella.

 

30.      Mae’r fersiwn wedi’i diweddaru o fy Strategaeth Amgylchedd Hanesyddol Cymru:

http://cadw.wales.gov.uk/historicenvironment/policy/historicenvironmentstrategyforWales/;jsessionid=5886407DE4E073305DFF289C8B59BF82?skip=1&lang=cy

yn amlinellu fy nyheadau ar gyfer y sector amgylchedd hanesyddol.

 

31.      Datblygwyd y Strategaeth mewn ymateb i sylwadau ac adborth gan y cyhoedd a’r sector amgylchedd hanesyddol yn ystod ymgynghoriadau eang a gynhaliwyd yn ystod 2012. 

 

32.      Hefyd, rwyf yn gobeithio cyflwyno Bil Treftadaeth (a mesurau cysylltiedig) i’r Cynulliad Cenedlaethol yn gynnar yn 2015. Bydd y Bil yn ymdrech i wella’r ffordd y mae Cadw yn rheoli polisi amgylchedd hanesyddol ac i helpu’r amgylchedd hanesyddol i barhau i gyflawni buddiannau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol ystyrlon i bobl Cymru. Bydd cyfle pellach i wneud sylwadau pan fydd papur ymgynghori ar y cynigion ar gyfer y Bil yn cael ei gyhoeddi yn haf 2013. 

 

33.      Mae’r Bil, y Strategaeth a’i fframweithiau gweithgarwch ategol, yn dri chonglfaen sy’n diffinio pwyslais strategol ymagwedd Llywodraeth Cymru tuag at yr amgylchedd hanesyddol.

 

34.      Mae’r Strategaeth yn cynnwys blaenoriaethau i weithredu i wella cyfleoedd bywyd pobl ifanc a mynd i’r afael â thlodi drwy fynediad at brofiadau diwylliannol. Mae prosiectau archeoleg cymunedol eisoes yn cynnig cyfleoedd newydd i bobl ifanc. Er enghraifft, mae prosiectau Cadw yn Segontium ac yn Llanmelin ger Caerwent, yn trefnu gweithgareddau i bobl ifanc sy’n cynnig cyfleoedd creadigol a datblygiad personol yn ogystal â ffyrdd i fod yn gysylltiedig â’u treftadaeth leol.

 

35.      Elfen allweddol o reoli ein treftadaeth yn gynaliadwy yw drwy feithrin sgiliau adeiladu traddodiadol. Gall hyfforddi pobl ifanc ac oedolion drwy brentisiaethau, profiad gwaith ac addysg ar brosiectau adeiladu traddodiadol helpu i ennyn hyder ac i fynd i’r afael â thlodi. Mae hefyd yn ychwanegu at adnodd sgiliau prin sy’n hanfodol i gynnal ein treftadaeth adeiledig sy’n dyddio cyn 1919. 

 

36.      Hefyd, mae Cadw wedi rhoi blaenoriaeth i ddatblygu rhaglen dysgu gydol oes eang sy’n cynnwys y Fframwaith Dysgu Gydol Oes ar gyfer y sector amgylchedd hanesyddol yng Nghymru, a gyhoeddir yr haf yma. Mae Cadw yn parhau i ddatblygu ei raglen addysg gan ddefnyddio’r henebion mewn ffordd greadigol ac apelgar i ddenu diddordeb plant a phobl ifanc mewn ystod o bynciau ar y cwricwlwm.

 

37.      Credaf yn gryf fod buddiannau gwirioneddol yn deillio o’r cyfleoedd sy’n cael eu creu i gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y celfyddydau a threftadaeth i bobl Cymru. Mae Fframwaith Celfyddydau a Threftadaeth Cadw yn amlinellu’r ymrwymiad i weithio â’r celfyddydau drwy ddatblygu rhaglen fywiog am gyfnod o dair blynedd rhwng 2012 a 2015 a threialu gwahanol themâu a dulliau gweithredu. Mae rhaglen artist preswyl wedi cychwyn yn Abaty Glyn y Groes. Bydd Cadw yn parhau i ddatblygu arferion gorau i weithio â’r celfyddydau yn ei safleoedd treftadaeth a’i raglen o ddigwyddiadau bywiog.

 

38.      Gall adfywio sy’n cael ei arwain gan dreftadaeth olygu bod ein trefi’n well llefydd i fyw ynddynt gan ein bod yn gweithio â rhuddin a chymeriad eu gwreiddiau a’u twf hanesyddol i’w datblygu ar gyfer byw yn yr 21ain ganrif. Mae swyddogion Cadw ac Adfywio wedi bod yn cydweithio’n agos i alinio eu gweithgareddau sy’n cynnwys canfod defnydd dyfeisgar i adeiladau gwag. Mae defnydd dychmygus a chreadigol o henebion sydd yng ngofal y Wladwriaeth er budd pobl leol ac ymwelwyr yn golygu bod safleoedd treftadaeth yn chwarae rhan hanfodol a chyfoes i gryfhau cymunedau.

 

39.      Mae’r Cynllun Dehongli Cymru Gyfan arloesol yn helpu i adrodd ein storïau mewn ffordd fywiog a deniadol, gan ennyn diddordeb a dychymyg pobl ifanc a theuluoedd. Mae ymweliadau â safleoedd drwy ein Prosiect Twristiaeth Treftadaeth, fel Castell Conwy, yn dangos pa mor bell y mae Cadw wedi symud ymlaen wrth gyflwyno ein treftadaeth i gynulleidfaoedd amrywiol. Hefyd, rydym yn edrych ar ddatblygu’r hyn sy’n cael ei gynnig yn ein safleoedd treftadaeth mwyaf poblogaidd a mwyaf eiconig i’n helpu i gyflawni ein hamcanion twristiaeth strategol.

 

40.Mewn mannau eraill, mae Cadw yn gwneud ei ran i atal neu wyrdroi colledion mewn bioamrywiaeth yng Nghymru. Yng Nghastell Dinbych, pan wnaethpwyd y penderfyniad i adnewyddu’r ganolfan ymwelwyr, ailedrychwyd a diweddarwyd yr adroddiad ar yr arolwg ecoleg, a chynhaliwyd arolwg o’r ystlumod ar y safle. Rhoddwyd darpariaethau ar waith cyn dechrau ar y gwaith a hefyd cynhaliwyd arolwg hanner ffordd yn ystod y gwaith adeiladu.

 

41.Roedd yr adeilad yn cydymffurfio â gofynion BREEAM (Dull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu). Dynododd y tîm ‘ddôl werdd’ o fewn libart y Castell a oedd yn cynnwys hadau bywlysiau cymysg a hefyd to bywlysiau ‘gwyrdd’.

 

42.Yng Nghastell Harlech canfu arolwg ecoleg fod ystlumod yn bresennol ac yn clwydo yno. Gyda chynnig i osod lloriau newydd, gwnaeth Cadw gais am drwydded i adleoli’r ystlumod (Rhywogaeth Ewropeaidd a Warchodir) a gosodwyd clwydi pwrpasol i ystlumod mewn tŵr cyfagos a oedd ar lwybr hedfan yr ystlumod. Bydd astudiaeth bellach yn cael ei chynnal yn ystod y misoedd nesaf i ganfod a yw’r ystlumod yn defnyddio’u cyfleusterau newydd.

43.Fel rhan o’r dehongliad, cynigir y bydd camerâu cylch cyfyng yn cael eu gosod ger mannau clwydo’r ystlumod a fydd yn cael eu cysylltu i sgriniau fel y bydd y cyhoedd yn gallu gweld yr ystlumod yn eu cynefin newydd.

 

Chwaraeon

 

 

44.      Mae chwaraeon mewn sefyllfa unigryw i gyfoethogi ein bywydau, drwy greu cyfleoedd i fwynhau ac i gyflawni’n bersonol. Mae’n ein hysbrydoli ni a’n plant i fynegi ein hunain ac i fod yn greadigol. Mae hefyd yn rhan allweddol o’n hymdeimlad o gymuned.

 

45.      Fel gwlad cymharol fach ar y llwyfan rhyngwladol mae angen i ni fanteisio ar unrhyw gyfleoedd posibl a all ddod yn sgil y llwyddiant hwn yn y byd chwaraeon. Eisoes, mae gennym nifer di-ri o enghreifftiau o lwyddiannau Cymru fel gwlad sy’n cystadlu gyda’r goreuon - llwyddiant tîm rygbi Cymru, Cardiff City, Swansea City, Wrecsam a Newport County y tymor hwn – ochr yn ochr â llwyddiannau Gareth Bale, Becky James a Sam Warburton – heb anghofio ein hathletwyr Olympaidd a Pharalympaidd.

 

46.      Wrth gwrs, rhaid i sêr y campau ddechrau yn rhywle ac mae angen i ni wneud y gorau o gyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, yn enwedig i’n pobl ifanc. Mae angen i ni hefyd gynyddu cyfranogiad fel y bydd benywod a merched, aelodau’r gymuned ddu a lleiafrifoedd ethnig a phobl anabl yn teimlo bod chwaraeon yn rhywbeth iddynt hwythau hefyd. Gall chwaraeon hefyd wneud cyfraniad pwysig i ddod â phobl at ei gilydd ac ysgogi pobl yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.

 

47.      Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol eisoes. Mae Strategaeth Tlodi Plant a Strategaeth Gymunedol Chwaraeon Cymru yn targedu ei fuddsoddiad at y grwpiau anodd eu cyrraedd ac sydd heb eu cynrychioli’n deg yn ein poblogaeth, ac mae’n rhoi blaenoriaeth i gynnal y twf yng nghyfranogiad benywod a merched mewn chwaraeon. Dywed Chwaraeon Anabledd Cymru bod dros filiwn o gyfleoedd chwaraeon wedi’u creu ar gyfer pobl ifanc ac oedolion ar lefel llawr gwlad yn 2012-12.

 

48.      Yn ystod y flwyddyn nesaf byddaf yn gweithio â Chwaraeon Cymru i barhau i gyflawni rhai o’n blaenoriaethau strategol gan gynnwys:

 

·         Cynorthwyo i ddatblygu ein chwaraeon ar lawr gwlad;

·         Cryfhau’r cysylltiadau rhwng ysgolion a chymunedau;

·         Gwella llythrennedd corfforol pobl ifanc;

·         Darparu mwy o hyfforddwyr ac annog mwy o wirfoddolwyr;

·         Targedu buddsoddiad a chymorth i wella cyfleoedd i ddal ati i gyfranogi mewn chwaraeon yn yr ardaloedd â’r angen mwyaf; a

·         Defnyddio chwaraeon i helpu i ddileu tlodi plant.

 

 

49.      Bydd gennyf rôl flaenllaw hefyd i weithredu ein huchelgais draws Lywodraeth i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ledled Cymru. Mae tystiolaeth wyddonol gref sy’n dangos bod gweithgarwch corfforol rheolaidd yn gallu ein helpu i fyw bywydau iachach a hapusach a lleihau’r risg o lawer o gyflyrau cronig. Mae hyn yn golygu mwy na buddiannau corfforol yn unig. Mae pobl ifanc sy’n byw bywydau afiach yn fwy tebygol o gael eu heithrio o weithgareddau cymdeithasol a’u gwahardd o’r ysgol. Mae’n amlwg nad yw lefelau gweithgarwch corfforol ymhlith pobl ifanc ac oedolion wedi codi yn ystod y degawd diwethaf fel yr oeddem wedi’i obeithio. Byddaf yn adolygu’r dystiolaeth a’n hymyriadau yng ngoleuni hyn.

 

 

50.      Mae ein cynlluniau Nofio Rhydd ar gyfer plant a phobl ifanc a phobl hŷn yn parhau i gael eu darparu’n llwyddiannus yn y 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Rydym hefyd yn gweithio â Chwaraeon Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a nifer o awdurdodau lleol i redeg a gwerthuso nifer o gynlluniau peilot i ymestyn nofio rhydd i gynnwys cyn aelodau ac aelodau presennol y lluoedd arfog. Bydd canlyniadau’r cynlluniau peilot hyn yn cael eu hystyried yn ystod yr haf.

 

51.      Mae Chwaraeon Cymru yn gweithio eisoes ag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynhyrchu cynllun cyflenwi o weithredoedd ar y cyd i gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol ac i ategu neu i adeiladu ar gynlluniau presennol fel Newid am Oes a Dewch i Gerdded Cymru. 

 

Y Bil Teithio Llesol (Cymru)

 

52.      Mae’r Bil yn un o fesurau allweddol y llywodraeth sydd â’r nod o drawsnewid agwedd Cymru at deithio. Drwy osod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gynllunio a gweithredu rhwydwaith o lwybrau cerdded a seiclo wedi’u cynllunio’n dda, y nod yw ceisio sicrhau mai cerdded a seiclo fydd y ffyrdd mwyaf normal a naturiol o symud o gwmpas.

 

53.      Mae’r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol bod awdurdodau lleol yn cynhyrchu dau fap: bydd y cyntaf yn dangos eu darpariaeth bresennol ar gyfer cerddwyr a seiclwyr; a bydd yr ail yn dangos eu cynllun tymor hir ar gyfer rhwydwaith a fydd yn galluogi pobl i wneud siwrneiau defnyddiol ar feic neu ar droed ar hyd llwybrau parhaus a fydd yn ddiogel a chyfforddus ac yn cysylltu gweithleoedd, ysgolion, siopau, gwasanaethau a mannau eraill ble mae pobl angen eu cyrraedd.

 

54.      Bydd yn goresgyn un o broblemau mawr y ddarpariaeth seiclo bresennol: yn amlach na pheidio nid yw’r llwybrau’n rhai parhaus ac nid ydynt yn caniatáu defnyddwyr i gwblhau teithiau defnyddiol heb orfod wynebu traffig prysur.

 

55.      Bydd dyletswydd ar awdurdodau lleol i wella eu darpariaeth yn barhaus ac i ddiweddaru’r mapiau’n rheolaidd wrth i’w rhwydweithiau ddatblygu. Bydd y mapiau’n gyfrwng defnyddiol hefyd i godi ymwybyddiaeth o’r rhwydweithiau ac i annog pobl i’w defnyddio.

 

56.      Drwy ganolbwyntio ar deithiau defnyddiol, yn hytrach na hamdden, bydd y Bil yn ymdrechu i annog pobl i ymgymryd â theithiau llesol yn hytrach na defnyddio’u car. Bydd hyn yn arwain at fuddiannau iechyd sylweddol, wrth i bobl ymgorffori gweithgarwch corfforol yn eu bywydau pob dydd, a lleihau allyriadau, helpu’r amgylchedd a lleihau tagfeydd – a bydd yr economi’n elwa hefyd.

 

57.      Cydnabyddir na fydd darparu’r seilwaith ar ei ben ei hun yn ddigon i wneud pobl newid eu harferion teithio a bydd Cynllun Gweithredu Teithio Llesol yn cyd-fynd â’r Bil, sydd yn y broses o gael ei ddatblygu, ac a fydd yn amlinellu mesurau hyrwyddo ac addysgol ar draws y llywodraeth gyda’r nod o annog y defnydd mwyaf posibl o’r rhwydweithiau newydd.

 

58.      Bydd hyn yn cynnwys, er enghraifft, gweithio ag ysgolion a chyflogwyr i wella cyfleusterau i’r sawl sy’n dewis peidio defnyddio’r car i fynd i’w gwaith neu ysgol. Mae tystiolaeth bendant sy’n dangos y bonws cynhyrchiant sy’n gysylltiedig â chyflogeion sy’n seiclo i’w gwaith gyda chyfraddau prydlondeb sylweddol uwch a llai o absenoldeb oherwydd salwch. Mae hyn yn hwb arall i’r economi.

 

Mynediad a Hamdden Awyr Agored

 

59.      Blaenoriaeth arall yw cynyddu’n sylweddol y cyfleoedd i roi mynediad i’r cyhoedd i’r awyr agored i ddibenion hamdden. Rydym wedi ymrwymo o dan y Rhaglen Lywodraethu i wella mynediad i’r cyhoedd i dir a dŵr, yn enwedig i deuluoedd a phlant. Rwyf yn arbennig o awyddus i ganfod ffyrdd o annog teuluoedd ac unigolion o ardaloedd economaidd ddifreintiedig i fanteisio ar y cyfleoedd hamdden sydd gan Gymru i’w cynnig, yn enwedig o gofio’r buddiannau i iechyd yn sgil gweithgarwch corfforol.

 

60.      Mae mynediad a hamdden awyr agored yn canolbwyntio ar hyn o bryd ar ddefnyddwyr traddodiadol, fel cerddwyr, seiclwyr, pysgotwyr a marchogion ceffylau. Mae’r galw am ystod ehangach o gyfleoedd hamdden, fel ceufadio, ar gynnydd. Gallai manteisio i’r eithaf ar botensial Cymru mewn gweithgareddau hamdden awyr agored fod yn hwb economaidd sylweddol i’r economi wledig. 

 

61.      Mae Llwybr Arfordir Cymru, a lansiwyd yn llwyddiannus ym Mai 2012, wedi dangos pa mor effeithiol y gall marchnata Cymru fel cyrchfan awyr agored fod i greu buddiannau cymdeithasol ac economaidd. Mae ymchwil yn dangos bod 2.89 miliwn o bobl wedi defnyddio Llwybr Arfordir Cymru rhwng mis Hydref 2011 a Medi 2012 ac mae amcangyfrifon yn awgrymu bod y llwybr wedi denu 1.6 miliwn o ymwelwyr dydd ac 835,000 o arosiadau dros nos. Mae’r gwariant sy’n gysylltiedig â’r teithiau hyn tua £33.2 miliwn sy’n cyfateb i £16.1 miliwn o  Werth Ychwanegol Crynswth.

 

62.      Mae’r arian a neilltuwyd ar gyfer Llwybr yr Arfordir er 2007/8 yn £10.5 miliwn a bydd yn parhau i roi £1.15 miliwn y flwyddyn am ddwy flynedd arall (2013/14 – 2014/15) er mwyn parhau i wneud gwelliannau mwy sylweddol i fynediad at yr arfordir – sef llwybrau cylchol a rhai cysylltiol eraill.

 

63.      Rwyf yn awyddus i hybu gwell mynediad at ddyfroedd mewndirol ar gyfer hamdden. Oherwydd hyn rwyf wedi cytuno i barhau â’r cynllun grant SBLASH.  Er 2008/9, mae £2.6 miliwn wedi’i neilltuo ar gyfer cynlluniau ar lefel leol drwy SBLASH.  Er bod yr arian hwn wedi creu cyfleoedd i lawer o bobl i fwynhau ein hadnoddau dŵr i ddibenion hamdden, mae ei effaith i greu mynediad newydd wedi bod yn gyfyngedig braidd.

 

64.      Rwyf yn disgwyl y bydd cyllid eleni’n rhoi blaenoriaeth i agor mannau newydd ar gyfer hamdden dŵr, ac y bydd Cyfoeth Naturiol Cymru, sy’n gweinyddu’r gronfa, yn helpu pan fydd yn gallu i gynorthwyo i agor ein dyfrffyrdd a’n llynnoedd i ddibenion hamdden.

 

65.      Rwyf hefyd am gynyddu’r niferoedd sy’n defnyddio a’r defnydd a wneir o fannau gwyrdd mewn ardaloedd poblog er budd cymunedau lleol. Byddai mannau gwyrdd yn cynnwys parciau, tir a ddefnyddir ar gyfer hamdden egnïol a mannau heddychlon.

 

66.      Fel rhan o hyn, hoffwn hefyd weld mannau’n cael eu cynnwys ar gyfer garddio cymunedol a thwf yn nifer y rhandiroedd sydd ar gael mewn ardaloedd trefol.

 

67.      I ategu hyn a’r Bil Teithio Llesol, rwyf yn bwriadu gwneud gwelliannau i’r ddeddfwriaeth bresennol ar hawliau tramwy a mynediad i gefn gwlad. Mae edrych o’r newydd ar sut yr ydym yn darparu mynediad i fannau gwyrdd a chefn gwlad ehangach yn hanfodol i gynyddu cyfranogiad y cyhoedd mewn hamdden awyr agored. Bydd dull a graddfa’r diwygiadau’n destun ymgynghoriad â rhanddeiliaid yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

 

Tirweddau Gwarchodedig

 

68.      Mae’r un mor bwysig bod gennym gyd-ddealltwriaeth o’r amgylchedd, yr economi, ac iechyd cymunedau o fewn ein tirweddau dynodedig. I’r perwyl hwn mae datganiad polisi newydd ar gyfer yr ardaloedd hyn yn cael ei baratoi ac a fydd hefyd yn cynnwys dangosyddion y bydd y canlyniadau allweddol yr hoffem eu cyflawni’n cael eu mesur yn eu herbyn. Bydd hyn yn helpu i ganfod blaenoriaethau ac i ganolbwyntio ymdrechion.

 

69.      Pan fydd y datganiad polisi’n barod, byddaf yn rhoi sylw i adolygu trefn lywodraethu’r parciau cenedlaethol. Nid oes adolygiad o’r parciau cenedlaethol wedi’i gynnal er 2004, ac mae llawer wedi newid ers hynny o ran rheoleiddio’r amgylchedd, creu Adnoddau Naturiol Cymru, a disgwyliad cynyddol bod y tirweddau dynodedig yn chwarae rhan allweddol mewn datblygu cynaliadwy.

 

70.      Bydd canfyddiadau’r Comisiwn ar Lywodraethu a Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn rhoi cyd-destun ehangach i’r adolygiad hwn, ac felly penderfynir ar fanylion yr hyn y byddwn yn craffu arno o ran Awdurdodau’r Parciau Cenedlaethol yn ddiweddarach eleni.

 

John Griffiths AC

Y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon

Mai 2013